Mae'r Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol yn gynllun sy'n ceisio gwella mynediad at dai fforddiadwy tymor hir o ansawdd da yn y sector rhentu preifat.
Bydd y Cynllun, sy'n cael ei reoli gan Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol Cyngor Rhondda Cynon Taf, yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth a buddion i Ddeiliad y Contract ac i'r Landlord Preifat, gyda'r nod o wneud y denantiaeth yn llwyddiannus ar gyfer y ddau barti.
Mae'r cynllun yn cynnig pecyn rheoli eiddo llawn i landlordiaid gan gynnwys atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw, gydag incwm rhent gwarantedig.
Bydd yr Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol yn darparu cymorth tai parhaus i Ddeiliad y Contract, gan ei helpu i fod yn fwy annibynnol ac i gynnal tenantiaeth lwyddiannus.
Rydyn ni'n awyddus i brydlesu eiddo heb ddodrefn am bum mlynedd i ddarparu cartrefi i drigolion Rhondd Cynon Taf.
Mae nifer o fuddion i'r Landlord. Dysgwch ragor amdanyn nhw ar ein tudalen Pam rhentu i ni.
Ein Haddewid
Byddwn ni'n rheoli'r eiddo o fewn y cynllun o ddydd i ddydd.
Bydd Gweithwyr Cymorth Tai yr Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol yn archwilio'r eiddo yn rheolaidd, yn monitro gweithgaredd tenantiaid ac yn delio ag unrhyw faterion yn brydlon, os bydd rhywbeth yn codi.
Byddwn ni'n talu rhent i chi hyd yn oed os yw'r eiddo'n parhau i fod yn wag.
Mae modd i chi gysylltu â'r asiantaeth gosod tai cymdeithasol drwy e-bostio GosodTaiCymdeithasol@rctcbc.gov.uk